Sefydlwyd CRICC yn 1990 er mwyn cynnig hyfforddiant rygbi drwy gyfrwng y Gymraeg. Ers ei sefydlu mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth a bu’n fan cychwyn i ambell chwaraewr rygbi nodedig.e.e.
Cafodd CRICC ddylanwad enfawr ar fy ngyrfa ac mi fyddaf o hyd yn ddiolchgar am hynny. Yno, cefais y ddisgyblaeth a’r gwerthoedd sy’n graidd i’r chwaraewr rygbi a’r person ydw i heddiw. Dwi’n hynod o ddiolchgar am fy nghyfnod yn chwarae i dimau CRICC, ac yn wir am yr holl brofiadau cefais yno fel bachgen ifanc. Jamie Roberts (Y Llewod, Cymru a’r Harlequins)
Daw ein haelodau o ysgolion cyfrwng Cymraeg y ddinas. Rho CRICC y cyfle i fechgyn a merched sy`n ymuno cyn eu bod Dan 12, gymysgu gyda phlant eraill cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol uwchradd. Rydym yn ymrwymo i bolisi URC o sicrhau fod pob chwaraewr yn chwarae o leiaf un hanner o bob gêm er mwyn meithryn eu datblygiad.